Dirwy hylendid bwyd i Ganolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth wedi pledio'n euog i 10 trosedd hylendid bwyd.
Cafodd y ganolfan ddirwy o £13,000 ar ôl cael eu herlyn gan Gyngor Powys.
Yn ôl y cyngor fe aeth eu swyddogion hylendid bwyd i'r ganolfan ym Medi 2016 er mwyn archwilio'r safle, ac fe ddaethon nhw o hyd i "safonau annerbyniol o lendid a hylendid".
Roedd baw, saim, a gweddillion bwyd i'w weld yn y gegin ac yn yr oergell. Roedd y rhewgell ac offer yn y gegin mewn cyflwr gwael hefyd.
Ymhlith y troseddau:
- Methu cadw'r ardaloedd paratoi bwyd yn lân;
- Methu cadw offer bwyd yn lân;
- Methu sicrhau bod bwydydd yn cael eu cadw yn ddiogel;
- Methu sicrhau mesurau i reoli heintiau;
- Gwerthu bwyd nad oedd yn iawn i'w fwyta.
Yn ôl Cyngor Powys: "Roedd pryfed yn y gegin drwy gydol yr archwiliad ac fe'u gwelwyd yn glanio ar arwynebau.
"Cafwyd o hyd i nifer o wybed meirw mewn dresin salad a oedd wedi cael ei gadw heb gaead yn y lle trin bwyd. Felly nid oedd y bwyd yn addas i'w fwyta."
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, Aelod Cabinet ar Faterion Iechyd yr Amgylchedd: "Yn yr achos hwn, nid oedd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cwrdd â'r safonau gofynnol, roedden nhw'n is o lawer na'r safonau derbyniol.
"Mae'r ffaith bod ein swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi dwyn yr achos hwn yn adlewyrchu pa mor ddifrifol oedd cyflwr y lleoedd bwyd a welwyd a'r perygl posib i iechyd."
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan bod yr ymchwiliad wedi digwydd yn 2016, a'i fod wedi arwain at ymdrechion i "wneud gwelliannau ar unwaith".
Ychwanegodd bod y ganolfan bellach wedi cael sgôr hylendid bwyd o lefel tri.
Yn ogystal â dirwy o £13,000 cafodd y ganolfan orchymyn i dalu costau o £1,596.