Cwest Nyah James: 'Dim tystiolaeth o fwlio'
Mae crwner wedi penderfynu fod merch 14 oed o Abertawe wedi marw ar ôl gorddos o boenladdwyr, ond nad oedd yna ddigon o dystiolaeth i brofi ei bod wedi bwriadu lladd ei hun.
Wrth gofnodi rheithfarn naratif dywedodd y crwner nad oedd tystiolaeth o fwlio yn achos Nyah James o ardal Blaenymaes, fu farw ym mis Chwefror.
Cyn y cwest roedd teulu'r ferch, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bishop Gore, Abertawe wedi dweud eu bod o'r farn bod bwlio wedi bod yn ffactor.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Paul Harry wrth y cwest nad oedd yr heddlu wedi dod o unrhyw dystiolaeth o gwbl o fwlio.
Ychwanegodd bod ffrindiau Miss James wedi dweud wrth yr heddlu ei bod hi wedi anafu ei hun yn y gorffennol a'i "bod yn casáu ei hunan".
Ym mis Mai, fe ymddangosodd brawd Nyah, Jordan Clements, o flaen llys am anfon negeseuon sarhaus i bedwar merch roedd o'n credu oedd yn gyfrifol am farwolaeth ei chwaer.
Fe wnaeth y dyn 20 oed bleidio'n euog i anfon negeseuon sarhaus ond dywedodd y barnwr fod marwolaeth ei chware wedi dylanwadu yn fawr ar ei ymddygiad.
Ar ôl ei marwolaeth fe wnaeth Heddlu De Cymru rybuddio pobl i ystyried yr effaith y gall negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol eu cael ar eraill.