Got a TV Licence?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

Find out more
I don’t have a TV Licence.

Crynodeb

  1. Beirniadu cytundeb y Ceidwadwyr a'r DUP
  2. Penderfyniadau 'anodd' i gyrraedd y miliwn
  3. Galw ar Tesco i ailfeddwl torri swyddi

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

Diolch am ddilyn

BBC Cymru Fyw

Dyna'r cyfan gan y Llif Byw am heno, ond fe fyddwn yn ôl bore fory, gan ddechrau hanner awr ynghynt, er mwyn rhoi sylw i'r gêm rygbi rhwng Samoa a Chymru - y gic gyntaf am 07:30.

Tan hynny, diolch am eich cwmni, a da bo chi.

Rygbi
BBC

Gweithdy erthyglau Wicipedia Cymraeg

Golwg 360

Bydd criw o bobol yn cwrdd mewn gweithdy yng Nghaerdydd heno ar gyfieithu erthyglau Wicipedia i’r Gymraeg, medd Golwg 360

Mae’n rhan o brosiect cenedlaethol i geisio cael siaradwyr Cymraeg i gyfrannu at Wicipedia drwy’r iaith, gan geisio sicrhau mwy o bresenoldeb i’r iaith yn ddigidol.

Eiri Angharad, 24, a Gwenno Elin Griffith, 25, sy’n gyfrifol am drefnu yng Nghaerdydd ar ôl cael eu “hysgogi” gan Robin Owain, rheolwr Wicimedia Cymru.

Hen Lyfrgell
BBC

Cymro yng nghanol 'anhrefn' maes awyr Luton

Galw ar i holl ysgolion Gwynedd chwifio Baner Cymru

Cambrian News

Mae cynghorydd yn Nwyfor wedi galw ar bob un ysgol yng Ngwynedd i chwifio baner Cymru ar eu safleoedd, medd y Cambrian News.

Fe wnaeth arweinydd Llais Gwynedd, Owain Williams, yr alwad er mwyn ceisio "codi ymwybyddiaeth a hunaniaeth" ymhlith plant ysgol y Sir.

Dywedodd ei fod yn deall fod llawer o ysgolion eisoes yn chwifio'r ddraig goch, ond nad oedd pob un yn gwneud hynny.

Baner Cymru
BBC

Poblogaeth Cymru'n cynyddu eto

Wales Online

Wedi i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi ffigyrau'r diweddaraf ar boblogaeth Cymru, mae Wales Online wedi mynd ati i ddadansoddi'r ffigyrau ymhellach.

Mae poblogaeth Cymru wedi codi i 3,113,200 - cynnydd o 0.5%.

361,468 yw poblogaeth ein prifddinas, Caerdydd.

Poblogaeth
BBC

£250,000 i ddiogelu treftadaeth cadeirlan

BBC Cymru Fyw

Bydd yr eglwys gadeiriol leiaf ym Mhrydain yn derbyn £255,800 gan y Loteri Genedlaethol "er mwyn diogelu a hyrwyddo ei threftadaeth Gymreig bwysig".

Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn Nyffryn Clwyd yw un o'r eglwysi cadeiriol hynaf yng Nghymru, yn dyddio'n ôl yn wreiddiol i tua 560 AD.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hwyluso mynediad i grwpiau ag anableddau.

Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Y Loteri Genedlaethol

Glaw cyn bore...

Tywydd, BBC Cymru

Robin Owain Jones sydd yma gyda tywydd heno:

"Fydd unrhyw gawodydd yn clirio cyn iddi nosi. Rhai cyfnodau clir i gychwyn, cyn troi’n fwy cymylog dros nos , ac er y bydd hi’n noson sych i’r rhan fwyaf, mi fydd ‘na law yn cyrraedd o’r gogledd-orllewin yn ystod yr oriau man.

"Y tymheredd yn 13C ar ei isaf heno."

Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

Dirwy i Ganolfan Technoleg Machynlleth

BBC Cymru Fyw

Mae canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth wedi pledio yn euog i 10 trosedd hylendid bwyd.

Cafodd y ganolfan ddirwy o £13,000 ar ôl cael eu herlyn gan Gyngor Powys.

Yn ôl y cyngor, fe aeth eu swyddogion hylendid bwyd i'r ganolfan ym Medi 2016 er mwyn archwilio'r safle ac fe ddaethon nhw o hyd i hyn a ddisgrifiwyd fel "safonau annerbyniol o lendid a hylendid."

dirwy
Cyngor Powys

Gwefan Cyngor Gwynedd i lawr

Twitter

Marwolaeth Caerffili: Cyhuddo llanc 16 oed

Heddlu De Cymru

Mae llanc 16 oed o Gaerffili wedi ei gyhuddo o gyflenwi cyffuriau, mewn cysylltiad â marwolaeth merch ar gyrion y dre dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal oddi ar Ffordd Mynydd Caerffili yn ystod oriau mân bore Sul yn dilyn pryderon am iechyd Shauna Davies, ond bu farw'n fuan wedyn.

Mae pedwar person arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi eu rhyddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Mynydd Caerffili
BBC

Cwest Nyah James: Dim tystiolaeth o fwlio

BBC Cymru Fyw

Mae crwner wedi dod i'r cagliad nad oedd merch 14 oed o Abertawe wedi cael ei bwlio cyn iddi gymryd gorddos o gyffuriau.

Cafodd Nyah James ei chanfod yn farw ym Mis Chwefror, ac yn sgil ei marwolaeth, cyhoeddodd Heddlu'r De rybudd i bobl ystyried yr effaith y gall negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol eu cael ar eraill.

Cafodd rheithfarn naratif ei chofnodi yn achos ei marwolaeth, a nododd y crwner nad oedd hi'n glir a oedd Nyah wedi bwriadu ei lladd ei hun.

Nyah James
BBC/Llun teulu

Penodi Pennaeth Newyddion BBC Cymru

BBC Cymru Fyw

Mae Garmon Rhys wedi ei benodi'n Bennaeth Newyddion y BBC yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Pennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae Garmon yn newyddiadurwr ac arweinydd creadigol uchel ei barch - mae wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu ein harlwy newyddion gwleidyddol, arbenigol a Chymraeg yn ei swydd bresennol fel Dirprwy Bennaeth yr adran."

Dywedodd Garmon Rhys ei fod yn falch o gael y cyfle i arwain y gwasanaeth: "Ar adeg o newid enfawr, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda'n tîm o newyddiadurwyr arbennig ar draws Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy'n bosibl i gyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed ym mhob rhan o'n cenedl."

Bydd yn olynu Mark O'Callaghan yn y swydd ym mis Gorffennaf.

Garmon
BBC

Ymchwilio i ladradau o siopau ffonau symudol

Western Telegraph

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio wedi i nifer o eitemau trydanol gael eu dwyn o siopau yn Hwlffordd a Chaerfyrddin, medd y Western Telegraph.

Cafodd siopau O2 a Vodafone yng Nghaerfyrddin eu targedu ddydd Mawrth 6 Mehefin, a siop Vodafone yn Hwlffordd ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad â dau ddyn gafodd eu gweld ar gamerâu cylch cyfyng, allai fod â gwybodaeth i'w helpu.

Cylchffordd Cymru: Llywodraeth yn 'diystyru' ymchwiliad

BBC Wales News

Mae ymchwiliad gan y Cynulliad i ariannu trac rasio yng Nglyn Ebwy yn cael ei "ddiystyru" gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cadeirydd pwyllgor.

Fe fethodd dau swyddog a bod yn bresennol mewn gwrandawiad o'r pwyllgor ariannu cyhoeddus ar gynllun Cylchffordd Cymru ddydd Llun.

Cafodd dyddiadau eraill eu cynnig cyn toriad yr haf, ond cafodd Aelodau Cynulliad wybod na fyddai'r swyddogion yn gallu bod yn bresennol bryd hynny chwaith.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Nick Ramsay, fod hyn yn "annerbyniol".

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Heddiw mewn hanes

Wicipedia

Ar y dydd hwn yn 1876, ganwyd yr arlunydd Gwen John yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Roedd yn chwaer i'r arlunydd Augustus John, ond yn adnabyddus fel arlunydd cydnabyddedig ei hun ac fel un o fodelau a chyfoedion yr arlunydd Ffrengig Rodin.

Gwen John - Hunan bortrerad 1902
BBC
Gwen John - Hunan bortrerad 1902

Rhywbeth rhyfedd yn y pridd yn Abertawe?

BBC Cymru Fyw

Fe gafodd cwpl o Abertawe dipyn o sioc ar ôl dychwelyd o'u gwyliau, i ddarganfod fod blodyn enfawr 12 troedfedd o uchder wedi tyfu yn eu gardd.

Does gan John a Shirley Thomas ddim syniad o ble ddaeth y blodyn - echium pininana - sy'n gynhenid i'r Ynysoedd Dedwydd.

"Mae'n bosib mai adar ddaeth â'r hadau o ardd arall," medd Ms Thomas.

"Mae'n lwcus ein bod ni wedi mynd ar wyliau, achos mae'n bosib y bydden ni wedi ei godi o'r pridd!"

Blodyn
Wales News Service

Beirniadu’r syniad o gyflogi gohebwyr i’r Cynulliad

Golwg 360

Mae Golwg 360 yn adrodd bod pennaeth Trinity Mirror yng Nghymru wedi beirniadu’r awgrym y dylai’r Cynulliad gyflogi ei newyddiadurwyr ei hun.

Yn ôl golygydd gwefan Wales Online, Paul Rowland, mae angen ystyried yn ofalus argymhelliad y Tasglu Digidol, gafodd ei gomisiynu i edrych ar y ffyrdd o fynd i afael â’r “diffyg democratiaeth” yng Nghymru.

Roedd y tasglu, dan arweinyddiaeth yr Athro Leighton Andrews, wedi argymell y dylai'r Cynulliad gyflogi tîm o newyddiadurwyr er mwyn ymateb i doriadau i'r wasg draddodiadol yng Nghymru.

Printio
PA

Gobaith i ffans Tudur Owen: Hynna Be 'Di o!

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Os cawsoch chi siom o fethu â chael tocyn i noson Tudur Owen nos Fawrth 8 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, mae 'na lygedyn o obaith i chi.

Fe werthwyd pob tocyn i'r noson o fewn ychydig ddyddiau, ond mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd tocynnau ychwanegol ar gael...

View more on twitter
Tudur Owen
Eisteddfod Genedlaethol

Ymchwiliad annibynnol i farwolaethau milwyr

BBC Cymru Fyw

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal wedi i ddau filwr farw yn dilyn digwyddiad ar faes tanio yn Sir Benfro.

Bu farw Matthew Hatfield, 27 o Wiltshire, a Darren Neilson, 31 o Sir Gaerhirfryn, pan wnaeth ffrwydron ffrwydro o fewn tanc Challenger yng Nghastell Martin ddydd Mercher diwethaf.

Dywedodd llefarydd y byddai "ymchwiliad trylwyr" yn cael ei gynnal i ddarganfod achos y digwyddiad.

Milwyr
Wales News Service

'Unioni'r fantol' wedi ffrae erthygl y Guardian

The Guardian

Fe achosodd erthygl ar addysg Gymraeg ym mhapur y Guardian ffrae fawr ar y gwefannau cymdeithasol yn gynharach yr wythnos hon, gyda nifer yn cyhuddo'r papur o roi safbwynt unllygeidiog ac unochrog.

Bellach, mae un arall o newyddiadurwyr y papur wedi ymateb gyda'i herthygl ei hun.

Mae Rhiannon Cosslet yn dweud ei bod am "unioni'r fantol, a phwysleisio manteision addysg ddwyieithog".

View more on twitter

Penodi Pennaeth Newyddion newydd BBC Cymru

BBC Cymru Wales

Mae BBC Cymru wedi penodi Garmon Rhys yn Bennaeth Newyddion newydd.

Bydd Garmon yn arwain datblygiad gwasanaethau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru gan gynnwys ar-lein, symudol, radio a theledu.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, dechreuodd Garmon ei yrfa newyddiadurol yn y BBC yn 2000, cyn gweithio fel cynhyrchydd teledu a radio.

Bu wedyn yn arwain datblygu strategaeth a chynllunio ar draws BBC Cymru am dair blynedd, cyn ail-ymuno â'r adran newyddion fel Dirprwy Bennaeth yn 2012.

Bydd Garmon yn olynu Mark O'Callaghan ac yn dechrau yn ei swydd newydd fis nesaf.

Y llygoden ddŵr yn ei hôl ym Mro Morgannwg

Cyngor Bro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi fod 100 o lygod dŵr wedi eu rhyddhau ym mharc Cosmeston ym Mhenarth fel rhan o ymdrechion i gynyddu eu niferoedd.

Dyma un o rywogaethau prinnaf Cymru, gyda'r niferoedd wedi gostwng 95% yn y DU ers y 1960au.

Dywedodd Aaron Jones, Parcmon yn Nghosmeston: "Mae'r parc yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ddynodedig ac mae ei llynnoedd, ffosydd, gwlâu gwiail a bywyd planhigion eraill yn ei wneud yn gynefin perffaith i alluogi llygod dŵr i ffynnu."

Llygoden ddŵr
BBC

Gwell 'ta gwaeth?

Tywydd, BBC Cymru

Rhian Haf sydd â manylion tywydd y prynhawn i ni:

"Yn clirio pnawn 'ma, pan gawn ni 'sbeidiau braf, yna fydd hi'n noson llawer mwy cyfforddus gyda'r tymheredd yn gostwng i 13C, ac yn yr oriau man fydd na fwy o law yn lledu o'r gorllewin."

Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

tymheredd
BBC

Newidiadau i wasanaeth bad achub y gorllewin

BBC Wales News

Mae'r RNLI wedi cyhoeddi newidiadau i'r gwasanaeth bad achub ar hyd arfordir gorllewin Cymru.

Bydd gorsafoedd Pwllheli a'r Bermo yn derbyn badau achub newydd, gwerth cyfanswm o £4.4m.

Ond bydd bad achub llawer llai yn cymryd lle yr un presennol yng ngorsaf Cei Newydd yng Ngheredigion.

Bad achub
RNLI/Nathan Williams

Ken Skates yn galw am gyfarfod brys gyda Tesco

Llywodraeth Cymru

Yn dilyn y newyddion am 1,100 o ddiswyddiadau yng nghanolfan Tesco yng Nghaerdydd mae'r Ysgrifennydd Economi Ken Skates yn wedi galw am gyfarfod brys gyda'r cwmni, "er mwyn cael mwy o eglurder a thrafod y camau y gallwn eu cymryd i helpu gweithwyr ar y safle".

"Mae fy nheimladau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio gyda'r penderfyniad, a byddwn yn cydweithio'n agos gyda Tesco ac asiantaethau cefnogi, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau lleol, Cyngor Caerdydd a'r undeb er mwyn sefydlu pecyn cymorth cynhwysfawr i staff."

Tesco
BBC

Taro'r Post: Sut mae cyrraedd y miliwn?

Taro'r Post

BBC Radio Cymru

Sut mae cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg? Dyna fydd dan sylw Taro'r Post rhwng 13:00 a 14:00, gydag Owain Clarke yn y gadair.

Mae arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith wedi dweud wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd "drawsnewidiol a chwyldroadol", os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o gyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

03703 500 500 yw'r rhif os am gyfrannu at y drafodaeth.

Cymraeg
BBC

Dau Gymro yng ngharfan Team Sky ar gyfer Le Tour

BBC Camp Lawn

Finsbury Park: Cyhoeddi enw'r dyn fu farw

Met Police

Mae Heddlu'r Met wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn yr ymosodiad terfysgol yn Finsbury Park yn oriau man bore Llun.

Mae prawf post mortem wedi awgrymu y bu farw Makram Ali, 51 oed o ardal Haringey yng ngogledd Llundain, o ganlyniad i nifer o anafiadau.

Mae Darren Osborne, 47 oed sy'n byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd, yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod wedi ymweld â 140 o leoliadau ac wedi cymryd meddiant o 33 dyfais ddigidol yng Nghymru fel rhan o'r ymchwiliad.

Makram Ali
Heddlu'r Met

Llofruddiaeth Matthew Cassidy: Arestio tri

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Matthew Cassidy yng Nghei Connah ar 29 Mai wedi arestio tri o bobl yn ychwanegol.

Cafodd dyn 48 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, dynes 38 ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac o ymwneud â chyflenwi cyffuriau, tra bod dynes arall 42 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae un dyn eisoes wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r achos, a dynes 19 oed yn dal i gael ei holi.

Matthew Cassidy
BBC/Llun teulu

Gyrru gwirion ar gamera: 'Ydych chi'n wallgo?'

Daily Post

Mae'r Daily Post wedi cyhoeddi fideo o yrru peryglus gafodd ei recordio gan dad a mab ar yr A470.

Roedd Carl Mahoney a'i fab 14 oed yn teithio i'r de o Flaenau Ffestiniog pan welon nhw nifer geir yn ceisio mynd heibio i dractor, gan greu dipyn o anhrefn ar y ffordd.

View more on twitter

Ymchwilio i ddiogelwch tân blociau o fflatiau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn blociau o fflatiau fis nesaf mewn ymateb i drychineb Tŵr Grenfell yn Llundain.

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn archwilio’r gofynion diogelwch, y canllawiau i drigolion a’r rheoliadau cyfredol yng Nghymru ar 13 Gorffennaf yn y Senedd.

"Arswyd i bawb oedd gwylio’r hyn ddigwyddodd yn Grenfell Tower yr wythnos diwethaf, ac rwyf am gael sicrwydd bod pob mesur diogelu angenrheidiol ar waith i atal trychineb o’r fath yng Nghymru," meddai cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths.

Tŵr Grenfell
BBC

Tîm y Llewod: Barn y gohebydd

Twitter

'Angen sicrwydd cyllid wedi Brexit'

Golwg 360

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn dweud bod angen mwy o sicrwydd ynglŷn â beth ddaw yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, medd Golwg 360.

Mae Cymru yn derbyn £2bn gan yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu rhai o ardaloedd tlota'r wlad, ac mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau ystyried cynllun i fynd i’r afael â cholli'r cyllid yma.

BBC
BBC

Brechu mwy na 600 wedi achosion o'r frech goch

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae mwy na 600 o blant wedi eu brechu yn ysgolion Casnewydd wedi pum achos o'r frech goch yn yr ardal yn ddiweddar.

Does dim achosion pellach o'r afiechyd wedi eu cadarnhau.

Mae'r straen hwn o'r frech goch yr un un ag sydd wedi ei gofnodi ar draws Ewrop dros yr wythnosau diwethaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o'r MMR, yn enwedig os ydyn nhw'n bwriadu ymweld â chyfandir Ewrop dros yr haf.

Brech Goch
BBC

Cyfle olaf i leisio barn ar Wylfa Newydd

BBC Cymru Fyw

Bydd yn rhaid i bobl sydd yn byw ac yn gweithio ar Ynys Môn roi eu hadborth ar Wylfa Newydd erbyn nos Iau wrth i ymgynghoriad ar gynlluniau diweddaraf Pŵer Niwclear Horizon ddod i ben.

Cyhoeddodd y cwmni ym mis Mai eu bod bellach am godi atomfa lai, fyddai'n golygu llai o waith adeiladu.

Er hynny, mae Horizon yn amcangyfrif y byddai dal angen tua 8,000 o weithwyr i godi'r orsaf bŵer.

Wylfa Newydd
Horizon

Huw'n gwneud pob dim...

Twitter

Wedi'r problemau technegol y noson o'r blaen wnaeth olygu fod y darllenwr newyddion Huw Edwards wedi bod yn eistedd a dweud dim am ddwy funud, tra'n fyw ar y teledu ar ddechrau prif fwletin newyddion deg o'r gloch y BBC, mae'r darlledwr wedi trydar ei ffordd o sicrhau fod y fath beth byth yn digwydd eto!

View more on twitter

Rhyddhau dyn yn ddigyhuddiad wedi 'sylwadau sarhaus'

Heddlu De Cymru

Mae dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o gyhoeddi sylwadau sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiad ar Fosg yn Finsbury Park yn Llundain wedi ei ryddhau'n ddigyhuddiad.

Fe gafodd y dyn 37 oed ei arestio ddydd Mawrth ac mae lle i gredu mai mab cwmni Pontyclun Van Hire, Richard Evans, wnaeth y sylwadau.

Un o faniau'r cwmni hwnnw gafodd ei yrru i ganol torf o Fwslemiaid nos Sul diwethaf.

Dywedodd Heddlu'r De na fyddan nhw'n mynd â'r mater ymhellach.

Fan
Getty Images

Miliwn o siaradwyr: Dewisiadau 'anodd'

Manylu, BBC Radio Cymru

Mae arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd "drawsnewidiol a chwyldroadol" os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o gyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, mae'n rhaid i'r llywodraeth ystyried gwneud "penderfyniadau anodd", gan gynnwys deddfu i newid statws iaith nifer o ysgolion.

Fe wnaeth ei sylwadau ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru, ac mae'n bosib gwrando ar y rhaglen ar yr iPlayer.

Yr Athro Rhys Jones yn galw am benderfyniadau dewr

Carlin ddim yn mynd i Bencampwriaethau'r Byd

BBC Camp Lawn

Pobl ifanc yn 'ansicr ynglŷn â Brexit'

BBC Cymru Fyw

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn parhau'n ansicr ynglŷn ag effaith Brexit ar eu bywydau, yn ôl ymchwil newydd gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ond mae'r ymchwil yn dweud eu bod yn benderfynol o'i wynebu gydag agwedd bositif.

Dr Elin Royles a Dyfan Powel o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru wnaeth gynnal yr ymchwil, a bu'r ddau'n trafod y canfyddiadau.

Trafod canfyddiadau'r ymchwil Brexit