Sianel deledu leol Bay TV eisiau cynhyrchu llai o raglenni
Mae sianel deledu leol ardal Abertawe, Bay TV, wedi diswyddo dau newyddiadurwr a gofyn i'r rheoleiddiwr leihau faint o raglenni sy'n rhaid iddyn nhw eu cynhyrchu.
Fe wnaeth y sianel lansio yng Ngorffennaf 2016, gan ddarlledu ar Freeview, Virgin ac ar y we.
Dywedodd rheolwr yr orsaf, Peter Curtis, wrth bwyllgor o ACau bod cyllideb lai wedi arwain at ddiswyddiadau.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Celfyddydau, Cymraeg a Chyfathrebu, dywedodd: "Rydyn ni'n gorfod cynhyrchu 17 awr a hanner o raglenni dan ein trwydded.
"Rydyn ni'n cael trafferth cyflawni hynny."
Dywedodd ei fod wedi gofyn i'r rheoleiddiwr, Ofcom i leihau hynny i saith awr a hanner.
Mae Ofcom wedi cael cais am ymateb.
'Dim ofn'
Dywedodd Mr Curtis bod "amodau economaidd" yn golygu nad oedd yr orsaf wedi sicrhau incwm digon da o hysbysebion, oedd wedi bod yn "sypreis".
Ychwanegodd bod lleihad mewn ffynonellau eraill o arian wedi arwain at ddiswyddo dau aelod o staff.
Mae'r orsaf yn darlledu sianel arall, Moving Pictures, ar benwythnosau, sy'n cyfrannu "rhan hanfodol" o'i hincwm.
Cafodd yr orsaf £140,000 gan y BBC yn y flwyddyn gyntaf, a bydd yn derbyn symiau llai dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Mr Curtis ei fod yn hyderus y byddai'r orsaf yn parhau ar ôl i'r arian yna ddod i ben yn 2019.
Dywedodd: "Does gen i ddim ofn. Rydw i'n credu y bydd rhagoriaeth Bay TV a'i bobl yn denu buddsoddwyr, a gallwn symud ymlaen gyda buddsoddiad gan grŵp allanol."